Telerau ac Amodau
Cyflwyniad
Mae’r telerau defnyddio hyn yn llywodraethu eich defnydd o’n gwefan. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn derbyn y telerau hyn yn llawn. Os ydych yn anghytuno â’r telerau defnyddio neu’n anghytuno â rhan benodol o’r telerau, ni fyddwch yn cael defnyddio’n gwefan.
Trwydded i ddefnyddio’r gwefan
Ni chewch, heb ganiatâd:
- Ailgyhoeddi deunydd y wefan (gan gynnwys ailgyhoeddi gwefannau gwahanol); gwerthu, rhentu ac is-drwyddedu deunydd o wefannau eraill;
- Dangos unrhyw ddeunydd o’r wefan yn gyhoeddus;
- Ailgynhyrchu, dyblygu, copïo neu ecsbloetio deunydd ar ein gwefan at ddibenion masnachol;
- Golygu neu addasu deunydd ar y wefan; neu ailddosbarthu deunydd o’r wefan (heblaw am gynnwys sydd wedi ei greu yn unswydd ar gyfer ailddosbarthu (megis ein cylchlythyr).
Oni bai y nodir yn wahanol, rydym ni neu’n trwyddedwyr yn berchen ar hawliau eiddo deallusol y wefan a’i chynnwys. Yn amodol ar y drwydded isod, cedwir yr holl hawliau eiddo deallusol hyn. Gallwch ddarllen a lawrlwytho cynnwys i’w cadw yn y storfa yn unig ac argraffu tudalennau o’r wefan i’w defnyddio at ddibenion personol, yn amodol ar y cyfyngiadau a nodir isod a thrwy gydol y telerau defnyddio hyn. Pan fydd cynnwys ar gael yn benodol i’w ailddosbarthu, dim ond o fewn eich sefydliad y gellir gwneud hyn.
Defnydd Derbyniol
Rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan mewn unrhyw ffordd sy’n achosi, neu a allai achosi niwed i’r wefan neu argaeledd/hygyrchedd y wefan; ni fyddwch yn cael defnyddio’r wefan mewn modd anghyfreithlon, twyllodrus neu niweidiol, ac ni fyddwch yn medru cael mynediad ati os ydych mewn cysylltiad ag unrhyw weithgarwch anghyfreithlon, twyllodrus neu niweidiol.
Rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan i gopïo, cynnal, trosglwyddo, anfon, defnyddio, cyhoeddi na dosbarthu unrhyw ddeunydd sy’n cynnwys (neu’n gysylltiedig ag) ysbïwedd, firysau cyfrifiadurol, firws Ceffyl Pren Troea, mwydyn, cofnodwr trawiadau bysellau, gwreiddwedd neu feddalwedd cyfrifiadurol maleisus eraill. Rhaid i chi beidio â chynnal unrhyw weithgareddau casglu data systematig neu awtomataidd (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: sgrapio, cloddio, echdynnu a chynaeafu data) mewn perthynas â’n gwefan heb ein caniatâd ysgrifenedig.
Rhaid i chi beidio â defnyddio’r wefan i anfon cyfathrebiadau masnachol digymell. Ni fyddwch yn cael defnyddio ein gwefan at ddibenion marchnata heb dderbyn caniatâd ysgrifenedig gennym ymlaen llawn.
Mynediad Cyfyngedig
Mae mynediad i rai rhannau o’n gwefan yn gyfyngedig. Rydym yn cadw’r hawl i gyfyngu mynediad i rannau o’n gwefan, neu hyd yn oed y gwefan cyfan. Os byddwn yn darparu enw defnyddiwr a chyfrinair i’ch galluogi i gael mynediad i rannau cyfyngedig ein gwefan neu gynnwys/gwasanaethau eraill, rhaid i chi sicrhau eich bod yn eu cadw’n ddiogel. Gallwn analluogi eich enw defnyddiwr a chyfrinair heb rybudd neu esboniad.
Cynnwys a Gynhyrchir gan Ddefnyddwyr
Mae “cynnwys defnyddwyr” yn golygu deunydd (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: destun, delweddau, deunydd clywedol, fideos a chynnwys clyweled) rydych chi’n ei gyflwyno i’r wefan at ddibenion penodol. Rydych yn rhoi hawl byd-eang, di-alw yn ôl, di-freindal i ni ddefnyddio, ailgynhyrchu, addasu, cyhoeddi, cyfieithu a dosbarthu eich cynnwys mewn perthynas ag unrhyw gyfryngau presennol neu ddarpar gyfryngau. Rydych hefyd yn rhoi hawl i ni is-drwyddedu’r hawliau hyn a gweithredu camau disgyblu os ydych yn eu torri. Ni ddylai eich cynnwys fod yn anghyfreithlon a ni ddylai dorri hawliau cyfreithiol unrhyw drydydd parti. Ni ddylai’ch cynnwys arwain at gamau cyfreithiol yn eich erbyn chi neu yn ein herbyn ni neu drydydd parti (dan unrhyw gyfraith gymwys). Rhaid i chi beidio â chyflwyno cynnwys defnyddiwr sydd wedi bod yn destun unrhyw achos cyfreithiol/mewn perygl o fod yn destun achos cyfreithiol neu gŵyn tebyg. Rydym yn cadw’r hawl i olygu neu waredu cynnwys sy’n cael ei chyflwyno i’r wefan, ynghyd â chynnwys sy’n cael ei storio ar ein gweinydd neu a gyhoeddir ar ein gwefan. Er gwaethaf ein hawliau dan y telerau hyn mewn perthynas â chynnwys defnyddwyr, ni fyddwn yn monitro unrhyw gynnwys sy’n cael ei huwchlwytho i’n gwefan.
Gwarantau Cyfyngedig
Er ein bod yn ceisio sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir, nid allwn warantu ei chyflawnder na’i chywirdeb; nid ydym chwaith yn ymrwymo i sicrhau bod y wefan yn parhau i fod ar gael. Yn ogystal â hyn, nid ydym yn medru sicrhau bod deunydd y wefan yn cael ei ddiweddaru. I’r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith gymwys, rydym yn eithrio pob sylw, gwarant ac amod sy’n ymwneud â’r wefan hon a’r defnydd ohoni (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: unrhyw warantau a weithredir gan y gyfraith ansawdd boddhaol, addasrwydd i’r diben a/neu defnydd o ofal a sgil rhesymol).
Cyfyngiadau Atebolrwydd
Oherwydd bod y wefan a’r wybodaeth a’r gwasanaethau sydd ar y wefan yn cael eu darparu am ddim, ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw fath;
Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod ôl-ddilynol, anuniongyrchol neu arbennig;
Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled mewn elw, incwm, refeniw, arbedion disgwyliedig, contractau, busnes, ewyllys da, enw da, data neu wybodaeth;
Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod sy’n deillio o ddigwyddiad neu ddigwyddiadau y tu hwnt i’n rheolaeth resymol;
Bydd ein hatebolrwydd mewn perthynas ag unrhyw ddigwyddiad neu ddigwyddiadau cysylltiedig yn cael ei gyfyngu i swm rhesymol.
Ni fydd unrhyw beth yn y telerau defnyddio hyn (na unrhyw le arall ar ein gwefan) yn eithrio nac yn cyfyngu ar ein hatebolrwydd am dwyll, marwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeulustod, neu am unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio neu ei gyfyngu dan gyfraith gymwys. Yn amodol ar hyn, bydd ein hatebolrwydd i chi mewn perthynas â’ch defnydd o’n gwefan neu’r telerau hyn, boed yn gytundebol neu’n gysylltiedig â’r gyfraith gamweddau (gan gynnwys esgeulustra) ac ati, yn cael ei gyfyngu i’r isod:
Indeniad
Trwy hyn rydych chi yn ein hindemnio ac yn ymrwymo i’n cadw ni wedi’n hindemnio yn erbyn unrhyw golledion, iawndal, costau, rhwymedigaethau a threuliau (gan gynnwys heb gyfyngiadau treuliau cyfreithiol ac unrhyw gostau a dalwyd gennym ni - ar gyngor ein cynghorwyr cyfreithiol - i sefydliad trydydd parti er mwyn setlo hawliad neu anghydfod) a achoswyd neu a ddioddefwyd gennym ni o ganlyniad i doriad a wnaethoch chi i unrhyw ddarpariaethau’r telerau defnyddio hyn, neu sy’n deillio o honiad eich bod wedi torri’r telerau defnydd hyn.
Os ydych yn torri’r telerau hyn heb dorri hawliau eraill y telerau defnyddio hyn, neu os ydych yn torri unrhyw un o’r telerau hyn mewn unrhyw ffordd, gallwn weithredu mewn unrhyw fodd rydym ni’n ei ystyried yn briodol, gan gynnwys eich gwahardd rhag cyrchu’r wefan, eich atal rhag cael mynediad i’r wefan, blocio cyfrifiaduron sy’n defnyddio eich cyfeiriad IP personol chi rhag cyrchu’r wefan, cysylltu â’ch gwasanaeth rhyngrwyd i ofyn iddynt atal eich mynediad i’r wefan a/neu ddod ag achos llys yn eich erbyn chi.
Amrywiadau
Efallai byddwn yn adolygu’r telerau hyn o bryd i’w gilydd. Bydd telerau sydd wedi’u diwygio yn dod i rym ar y dyddiad y gwneir y diwygiadau. Gwiriwch y dudalen hon yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn gyfarwydd â'r fersiwn gyfredol.
Aseiniad
Efallai y byddwn yn trosglwyddo, is-gontractio neu weithredu ein hawliau a/neu rwymedigaethau o dan delerau defnyddio hyn heb eich hysbysu na derbyn eich caniatâd. Ni allwch drosglwyddo, is-gontractio na delio â’ch hawliau a/neu rwymedigaethau dan y telerau defnyddio hyn.
Toradwyedd
Os bydd unrhyw lys neu swyddogaeth cymwys arall yn penderfynu bod un o ddarpariaethau’r telerau hyn yn anghyfreithlon a/neu anorfodadwy, bydd y darpariaethau eraill yn dod i rym. Pe bai unrhyw ddarpariaeth anghyfreithlon a/neu anorfodadwy yn dod yn gyfreithiol neu’n orfodadwy oherwydd bod rhan ohoni’n cael ei dileu, ystyrir bod y rhan honno wedi cael ei dileu yn fwriadol, a bydd gweddill y ddarpariaeth yn parhau mewn grym.
Eithrio Hawliau Trydydd Parti
Mae’r telerau defnydd hyn er eich lles chi a ninnau, ac ni fwriadwyd iddynt fuddio unrhyw sefydliad/person trydydd parti na chael eu gorfodi gan drydydd parti. Nid yw arfer eich hawliau chi na’n hawliau ni mewn perthynas â’r telerau hyn yn amodol ar ganiatâd gan unrhyw drydydd parti.
Cytundeb Cyfan
Mae’r telerau defnydd hyn ynghyd â’n polisi preifatrwydd yn ffurfio’r cytundeb cyfan rhyngoch chi a ni mewn perthynas â’ch defnydd chi o’n ngwefan ni, ac maent yn disodli pob cytundeb blaenorol o ran eich defnydd o’r wefan hon.
Cyfraith ac Awdurdodaeth
Bydd y telerau defnydd hyn yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfraith Lloegr, a bydd unrhyw anghydfodau sy’n ymwneud â’r telerau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth anghydfodedig llysoedd Cymru a Lloegr.