Amina Bodhania
Pennaeth Gwella Partneriaethau a Busnes Novus a Chyfarwyddwr Trefnu a Gweithredu
Dechreuodd Amina ei gyrfa addysgu gyda Choleg Macclesfield, cyn symud ymlaen i sicrhau gyrfa yn y sector addysg mewn carchardai gyda Novus. Mae ganddi brofiad hefyd o weithio mewn rolau megis Rheolwr Sgiliau ar gyfer Bywyd a Rheolwr Addysg.
Mae hi wedi gweithio â throseddwyr o bob oedran, o oedolion ifanc i oedolion. Enillodd yr holl brofiadau hyn mewn amrywiaeth o sefydliadau gwahanol, o sefydliadau agored i sefydliadau tra diogel. Yn 2017, symudodd ymlaen i rôl lle gweithiodd ar nifer o brosiectau ‘newid’.
Mae Amina yn angerddol iawn ac mae’n ymrwymedig i sicrhau bod addysg o safon uchel yn aros wrth wraidd yr hyn a wnawn, er mwyn sicrhau gwasanaeth buddiol i’n dysgwyr, cydweithwyr a’r cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu.