John Thornhill
Prif Weithredwr Grŵp LTE a Chyfarwyddwr Novus Gŵyr
Ymunodd John â grŵp LTE yn 2012. Mae ganddo brofiad o weithio fel cyfarwyddwr ac un o brif weithredwyr BT. Mae e hefyd wedi gweithio mewn rolau anweithredol, a phedair blynedd yn ôl roedd John yn aelod o Fwrdd Prifysgol Fetropolitan Manceinion.
John yw Arweinydd Grŵp LTE ac mae e'n gyfrifol am lywio cyfeiriad strategol a gweithredol y sefydliad, gan sicrhau ein bod yn bodloni blaenoriaethau cenedlaethol a pharhau i weithredu mewn ffordd sy'n ariannol gadarn. Trwy wneud hyn, rhaid iddo gydymffurfio â gwerthoedd cadarn a chenhadaeth gymdeithasol y sefydliad.