Mark Jones
Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Gŵyr Abertawe a Chyfarwyddwr Novus Gŵyr
Mae Mark wedi gweithio fel Pennaeth a Phrif Weithredwr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ers mis Mai 2013. Cyn ymuno â Choleg Gŵyr Abertawe, gweithiodd Mark fel Prif Weithredwr Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, felly mae ganddo 19 mlynedd o brofiad o weithio fel Pennaeth mewn Coleg.
Mae Mark yn athro cymwysedig ac yn gyfrifydd siartredig ac mae ganddo Radd Meistr mewn Rheoli Addysg. Cyn arbenigo mewn addysg, bu Mark yn gweithio ym maes ymarfer cyhoeddus. Mae hefyd wedi gweithio mewn rolau uwch rheoli i sefydliadau Addysg Bellach (AB) ac Addysg Uwch, yng Nghymru a Lloegr.
Ym mis Mai 2013 penodwyd Mark yn Gadeirydd Colegau Cymru - cymdeithas sy'n cynrychioli holl golegau a sefydliadau AB Cymru - gan ei gyd-Benaethiaid AB, a bu'n gweithio yn y swydd honno am ddwy flynedd.