Cath Jenkins
Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd Coleg Gŵyr Abertawe a Chyfarwyddwr Novus Gŵyr
Cath yw Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd Coleg Gŵyr Abertawe, ymunodd â'r Coleg yn 2017. Cyn hynny bu'n gweithio i Lywodraeth Cymru mewn amrywiaeth o rolau, gan gynnwys Is-Gyfarwyddwr, Cyflogadwyedd a Chyllid UE o fewn y Gyfarwyddiaeth Dysgu Sgiliau, Addysgu Uwch a Dysgu Gydol Oes. Mae ganddi dros 25 blynedd o brofiad ym maes cyflogadwyedd a sgiliau, ar ôl treulio blynyddoedd yn gweithio mewn ystod eang o rolau polisi a darparu.
Fel rhan o'r rolau hyn, mae Cath wedi datblygu strategaeth a pholisi cenedlaethol ar faterion cyflogaeth a sgiliau, gan gynnwys polisi ar droseddwyr yng Nghymru. Yn ogystal â hyn, mae hi wedi goruchwylio'r gwaith o ddarparu nifer o raglenni cyflogadwyedd a sgiliau ar lefel genedlaethol a lleol.